TEITL |
Dull Cymru o ymdrin â chymwysterau yn 2021 |
DYDDIAD |
10 Tachwedd 2021 |
GAN |
Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg |
Rwy’n bwriadu rhoi cyfarwyddyd i Cymwysterau Cymru na ddylid cynnal arholiadau diwedd blwyddyn ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru yn 2021.
Mae hyn yn unol ag argymhellion Cymwysterau Cymru a'r Adolygiad Annibynnol.
Y prif reswm dros fy mhenderfyniad yw tegwch; bydd yr amser y bydd dysgwyr yn ei dreulio mewn ysgolion a cholegau yn amrywio’n aruthrol ac, yn y sefyllfa hon, mae’n amhosibl gwarantu chwarae teg i gynnal arholiadau.
· Yn hytrach nag arholiadau, bwriadwn weithio gydag athrawon i ddatblygu asesiadau dan reolaeth athrawon.
· Dylai hyn gynnwys asesiadau a fydd yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol, ond eu cynnal yn y dosbarth o dan oruchwyliaeth athrawon.
·
Rwy’n disgwyl iddynt gael eu defnyddio fel
sylfaen ar gyfer canlyniadau gan ganolfannau, gyda dull
cenedlaethol y cytunwyd arno i sicrhau cysondeb ar draws
Cymru.
Byddaf yn cyflwyno Datganiad Llafar yn ddiweddarach heddiw, lle byddaf yn rhoi mwy o fanylion ac yn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd ofyn cwestiynau.
Rwyf hefyd wedi anfon llythyr at bob ysgol uwchradd a choleg yn rhoi gwybod iddynt am fy mhenderfyniad.